Rhif y ddeiseb: P-05-1026

Teitl y ddeiseb: Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr

Geiriad y ddeiseb: Er y cafodd ffermio ffwr ei wahardd yn y DU yn 2000, mae maglu ffwr yn parhau i fod yn gyfreithlon yn achos rhai anifeiliaid gwyllt fel llwynogod, cwningod a mincod.

Rydym yn ymgyrchu i gau’r bwlch hwn i atal dioddefaint i fwy o anifeiliaid yn y maglau barbaraidd hyn, a chael eu lladd mewn ffordd greulon a’u blingo am eu crwyn.

Rydym yn gofyn am ddileu’r arfer o ddal anifeiliaid gwyllt mewn maglau i’w defnyddio yn y fasnach ffwr, a bod yr awdurdodau priodol yn cefnogi’r gyfraith ac yn monitro’r sefyllfa’n ofalus.

 

 

 


1.     Cefndir

Defnyddio maglau

Mae defnyddio maglau yn golygu maglu a rhwystro anifail, yn aml cyn iddo gael ei ladd. Fe’i defnyddir yn bennaf yn y DU gan ffermwyr a rheolwyr tir eraill i reoli bywyd gwyllt fel llwynogod, cwningod, llygod mawr, gwiwerod llwyd a minc. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon gan rai i ddal bywyd gwyllt am ei ffwr.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae’n drosedd: 

§    gosod magl gloi mewn ffordd y bwriadwyd iddi achosi anaf corfforol i unrhyw anifail gwyllt; 

§    lladd neu gymryd unrhyw anifail gwyllt gan ddefnyddio magl gloi; 

§    gosod magl (neu declyn arall) mewn modd y bwriadwyd iddo achosi anaf corfforol i unrhyw anifail a restrir yn Atodlen 6 i’r Ddeddf, er enghraifft moch daear; 

§    lladd neu gymryd unrhyw anifail a restrir yn Atodlen 6 i’r Ddeddf gan ddefnyddio magl;

§    gosod magl ac yna methu ag archwilio'r fagl honno (neu sicrhau bod rhywun arall yn ei harchwilio) o leiaf unwaith bob dydd; 

§    gosod unrhyw fath o fagl oni bai eu bod yn 'berson awdurdodedig' o dan y Ddeddf (hynny yw, perchennog neu feddiannydd y tir lle y gosodir y fagl, unrhyw berson a awdurdodir gan berchennog neu feddiannydd y tir, neu berson a awdurdodir yn ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal; a 

§    meddu ar fagl at ddibenion cyflawni unrhyw un o'r tramgwyddau uchod. 

Mae adran 11(4) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn rhoi pwerau cyfyngedig i Weinidogion Cymru ddiwygio’r modd y caiff defnydd o faglau ei reoleiddio ond dim ond at y diben o gydymffurfio â rhwymedigaeth ryngwladol. Byddai angen newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill. 

O dan Adran 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae’n rhaid i unigolion gymryd camau rhesymol i sicrhau bod anghenion lles pob anifail o dan ei reolaeth yn cael eu diwallu, ac amddiffyn yr anifail rhag poen a dioddefaint.

Mae Adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi codau ymarfer. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cod ar yr arfer orau wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid (y sonnir amdano isod o dan ‘camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru’).

Mae Deddf Ceirw 1991 yn gwahardd defnyddio maglau i ddal, lladd neu achosi niwed corfforol i geirw (Adran 4).

Mae Deddf Diogelu Mamaliaid Gwyllt 1996 yn gwahardd gweithredoedd treisgar gyda’r bwriad o beri dioddefaint diangen i famaliaid gwyllt (Adran 1).

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw reolaethau deddfwriaethol ar waith ar weithgynhyrchu a gwerthu maglau. 

Y fasnach ffwr

Mae Deddf Ffermio Ffwr (Gwahardd) 2000 yn gwahardd cadw anifeiliaid yn unig neu’n bennaf i’w lladd am werth eu ffwr yng Nghymru a Lloegr.

Er bod ffermio ffwr wedi’i wahardd, mae’n gyfreithiol yn y DU i fewnforio ac allforio ffwr o ystod o rywogaethau fel llwynog, cwningen a minc. Mae maglu anifeiliaid ar gyfer pelenni yn gyfreithiol, wrth gadw at rai deddfwriaeth benodol, gweler uchod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio gwahardd gwerthu a mewnforio ffwr anifeiliaid go iawn fel mater cymhleth sy’n cynnwys pwerau datganoledig a heb eu datganoli.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Defnyddio maglau

Cod ar yr arfer orau wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid

Ar 25 Medi 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Cod ar yr arfer orau ar wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid'' (cod statudol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006). Mae’r cod yn crynhoi’r rhwymedigaethau cyfreithiol cyfredol ar y rheini sy’n defnyddio maglau ac yn amlinellu’r canllawiau y dylid eu dilyn. Mae’r cod yn nodi: ‘Pwrpas magl yw i ddal y cadno heb achosi dioddefaint diangen iddo tan fod modd ei ladd yn ddi-boen.’ Mae’n canolbwyntio ar reoli llwynogod mewn ardaloedd gwledig yn hytrach na maglu am belenni.

Nid yw methu â chydymffurfio â chod o’r fath yn drosedd ynddo’i hun.  Fodd bynnag, gall methiant i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol cod ymarfer gael ei ddefnyddio mewn llys er mwyn sefydlu atebolrwydd.  

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar god 2015 yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) y Senedd y dylid cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cod (gweler ‘camau gweithredu Senedd Cymru’).

Cyfeiriodd adroddiad 2019 at ddigwyddiad rhanddeiliaid ym mis Chwefror 2018 ar y cod. Dywedodd y ‘daeth amrywiaeth eang o randdeiliaid i’r digwyddiad, gyda barn wahanol am ddefnyddio maglau’. Dywedodd:

Cadarnhaodd y rhanddeiliaid fod y Cod wedi cael ei ddosbarthu ar raddfa eang i aelodau oedd yn defnyddio maglau fel rhan o’u gwaith bob dydd. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn credu bod eu haelodau yn cydymffurfio ag argymhellion y Cod. Ond ychydig o dystiolaeth ffeithiol sydd ar gael a chydnabyddir ei bod yn anodd mesur neu amlygu tystiolaeth o ymarfer da a chydymffurfiad â’r Cod gan fod gosod a defnyddio maglau’n digwydd ar dir preifat gan mwyaf.

Roedd y camau nesaf a nodwyd yn adroddiad 2019 yn cynnwys bod angen i swyddogion Llywodraeth Cymru i gwrdd â rhanddeiliaid eto ym mis Mai 2019. Yna byddai’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio fel rhan o’r broses barhaus i benderfynu a yw cod 2015 ‘yn gweithio ai peidio ac a oes angen ystyried camau pellach, gan gynnwys opsiynau deddfwriaethol’. Nid yw’r Gwasanaeth Ymchwil wedi gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth gyhoeddus am y digwyddiad arfaethedig ym mis Mai 2019.

Ymgynghoriad Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy

Roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 2017, Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, yn ceisio barn ar reoleiddio maglau (Pennod 10). Roedd yn cynnwys saith cynnig yn ymwneud ag agweddau ar ddylunio maglau ac ymarfer gweithredwyr maglau yn gofyn a ddylid cael pwerau pellach i wneud Gorchmynion i Weinidogion Cymru reoleiddio maglau.

Yn ymgynghoriad 2017, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at ddefnyddio maglau yng nghyd-destun rheoli plâu, ond nid oedd yn cyfeirio at ddefnyddio maglau ar gyfer y fasnach ffwr:

Dylai maglau barhau i fod ar gael i reolwyr tir fel dull cyfreithlon o ymdrin â rhywogaethau sy’n blâu, a rhaid cael mesurau diogelu cadarn i reoli’r defnydd o faglau. 

Roedd cyfran fawr o’r ymatebwyr i ymgynghoriad 2017 yn gwrthwynebu defnyddio maglau yn gyffredinol ac yn teimlo y dylid eu gwahardd yn llwyr.  

Daeth Llywodraeth Cymru i’r casgliad nad oedd gwahardd maglau yn gynnig a nodwyd yn yr ymgynghoriad, felly ni ellid cael darlun cyflawn o farn pobl ar wahardd maglau, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, trwy’r ymgynghoriad hwn.

Ni chymerwyd unrhyw gamau pellach ar reoleiddio defnyddio maglau ers ymgynghoriad 2017.

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Mae’r llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AS, (‘y Gweinidog’ o hyn ymlaen), yn ymateb i’r ddeiseb hon, yn nodi y bydd yn cyhoeddi Papur Gwyn ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) a ddisgwylir eleni. Disgwylir y Bil yn ystod y Chweched Senedd. Mae hi’n bwriadu i’r Bil ddarparu’r pwerau deddfwriaethol i ‘reoleiddio pob agwedd ar werthu a defnyddio maglau yng Nghymru’. 

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Defnyddio maglau

Yn 2016/17 cynhaliodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i’r defnydd o faglau. Ym mis Mehefin 2017 cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar ddefnyddio maglau yng Nghymru’. Daeth i’r casgliad a ganlyn:

Mae’r ymchwiliad hwn wedi dangos i ni fod bylchau sylweddol yn y data sydd ar gael er mwyn deall i ba raddau y defnyddir maglau yng Nghymru, pa mor effeithiol ydynt ac a ydynt yn rheoli plâu heb fod yn greulon.

Rydym wedi nodi argymhellion sy’n ceisio creu fframwaith ar gyfer casglu’r data gofynnol ac i ddefnyddio’r data hyn wrth adolygu’r polisi cyfredol.

Os gellir dangos drwy’r data bod y dull hwn yn effeithiol a dangos nad yw’n greulon, yna rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu ei dull yn rheolaidd. Os na, yna mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall weithredu’n gyflym. […] Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru baratoi deddfwriaeth ddrafft yn awr i sicrhau ei bod mewn sefyllfa i weithredu ar unwaith pe bai ymdrechion cyfunol y Llywodraeth, y diwydiant a thirfeddianwyr yn methu â chyflawni uchelgeisiau’r Cod.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad blynyddol o god 2015 a chyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw. Fel y trafodwyd, cafodd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar god ymarfer 2015 ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2019.

Y fasnach ffwr

Mae’r Pwyllgor hwn hefyd yn ystyried y ddeiseb P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru sy’n condemnio trapio anifeiliaid gwyllt am ffwr.

Cafodd y Pwyllgor lythyr (Awst 2019) gan Gymdeithas Masnach Ffwr Prydain, mewn perthynas â deiseb P-05-901. Mae’r llythyr yn nodi nodi rôl y fasnach ffwr yn codi safonau lles anifeiliaid yn y DU ac yn rhyngwladol, ac sy’n tynnu sylw y byddai gweithredu gwaharddiad yn bygwth y safonau hyn. Dywed y byddai’r diwydiant yn lansio ac yn cyflwyno FURMARK cyn bo hir, sef, marc rhyngwladol sydd â’r nod o warantu safonau yn y meysydd hyn ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys yn y man gwerthu.

Mewn llythyr (Hydref 2019) at y Pwyllgor ar ddeiseb P-05-901, dywedodd y Gweinidog fod unrhyw ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn ddibynnol iawn ar berthynas y DU â’r UE yn y dyfodol. Mae hi’n nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater:

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi safbwynt Llywodraeth y DU sy’n nodi er na fydd rhai cynhyrchion ffwr byth yn cael eu mewnforio yn gyfreithiol i’r DU, mae gwaharddiadau cenedlaethol yn llai effeithiol na gweithio ar lefel ryngwladol ar safonau lles anifeiliaid.

Amlinellodd y Gweinidog enghreifftiau o ymdrechion rhyngwladol i sicrhau safonau uwch, a gaiff gefnogaeth rheolau a rheoliadau’r UE ynghylch y fasnach ffwr. Gorffennodd y Gweinidog drwy ddweud bod Llywodraeth y DU wedi nodi o’r blaen y bydd yn sicrhau na chaiff y rheolaethau hyn eu dileu ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.

Ym mis Chwefror 2017, gofynnodd Paul Davies AS i Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ar y pryd) wneud datganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch gwerthu ffwr anifeiliaid yng Nghymru. Dyma a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd:

Fur Farming was banned by the UK Government in England and Wales on ethical grounds in 2000. The Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora (CITES) regulates the import, re-export, sale or movement of endangered wild animals or their parts and aims to ensure international trade in wild animals species does not threaten their survival. 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.